Yn hytrach nag ehangu'r oedran sgrinio cymwys dros
ddwy flynedd, cytunwyd y byddai hyn yn cael ei ymestyn dros gyfnod
o bedair blynedd, gyda newid cydamserol i'r trothwy sgrinio FIT yn
ystod y ddwy flynedd olaf fel a ganlyn:
v fis Hydref 2021 – ehangu'r oedran
sgrinio cymwys i gynnwys y rhai 58-74 oed (torbwynt FIT ar
150)
v O fis Hydref 2022 – Ehangu'r ystod
oedran ymhellach i'r rhai 55 oed (55-74), gyda’r torbwynt FIT
yn parhau ar 150
v O fis Hydref 2023 – Ehangu'r oedran
sgrinio cymwys i 51-74 oed a gostwng y trothwy FIT (cynyddu
sensitifrwydd y pecyn) o 150 i 120 μg/g
v O fis Hydref 2024 – cwblhau'r broses
o ehangu oedran, drwy wahodd pawb o
50 oed, wrth gwblhau'r
optimeiddio drwy leihau'r trothwy sgrinio FIT i 80μg/g.
Mae Sgrinio Coluddion Cymru
wedi cwblhau'r ehangu oedran i'r rhai 58 oed yn unol
â’r amserlen rhwng mis Hydref 2021 a mis Medi 2022, a
dechrau cam nesaf y cynllun optimeiddio yn unol â'r targed,
pan ddechreuodd y rhai o 55 oed gael eu pecynnau sgrinio o 5 Hydref
2022 (roedd disgwyl i'r cyflwyno i bawb rhwng 55-57 oed gael ei
gwblhau erbyn mis Medi 2023).
Bydd yr ehangu hwn i 55 oed yn
ychwanegu 172,000 o wahoddiadau sgrinio ychwanegol y flwyddyn
(amcangyfrifir 492,000 o wahoddiadau’r flwyddyn), gan
ehangu'r oedran yn y dyfodol fel y cynlluniwyd, gan arwain at
amcangyfrif y bydd 537,000 o unigolion y flwyddyn yn cael pecyn
sgrinio'r coluddyn o fis Hydref 2024.
Mae Sgrinio Coluddion Cymru
wedi rhannu modelu galw manwl â phob bwrdd iechyd a'r NEP yn
seiliedig ar y symiau hyn o wahoddiadau. Mae hyn yn awgrymu y bydd
nifer y gweithdrefnau colonosgopi sgrinio yn codi o 4,600 i 6,900
eleni ac yn lefelu ar dros 12,000 o weithdrefnau ar ôl
cwblhau'r optimeiddio sgrinio ym mis Medi 2025.
Mae'r cynnydd canlyniadol
disgwyliedig mewn canserau a ganfyddir drwy sgrinio yn codi o 330
pan oedd y rhai o 58 oed yn cael eu sgrinio, i dros 500 yn ystod y
ddwy flynedd nesaf a thros 870 gyda chwblhau'r ehangu oedran
sgrinio a gynlluniwyd a'r newid sensitifrwydd FIT. Cyn
optimeiddio'r rhaglen sgrinio coluddion yn 2019, cafodd tua 10% o
holl ganserau'r colon a'r rhefr newydd yng Nghymru eu canfod drwy
sgrinio. Mae modelu Sgrinio Coluddion Cymru yn nodi bod disgwyl i'r
gyfran hon a ganfyddir drwy sgrinio gynyddu i bron 45% y flwyddyn
ar ôl cwblhau'r broses optimeiddio yn 2025.